Roedd Talulah yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
Addysg
Iechyd Meddwl mewn ysgolion
Hybu
diwylliant a'r Iaith Gymraeg
Cyfranogiad
Ieuenctid Cymru mewn Gwleidyddiaeth
Dymunwn fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gan fod dyfodol gwleidyddol
Cymru yn gorffwys yn ein hieuenctid ac mae’n rhaid ymgysylltu a phobl ifanc ein
cenedl er mwyn sicrhau datblygiad.
Buaswn yn annog trafodaethau o fewn ysgolion trwy gychwyn pwyllgor
hollgynhwysol a fydd yn tanlinellu pa faterion sydd yn bwysig i’r etholwyr
ifanc, gan eu barn nhw sydd yn fwyaf pwysig i mi. Gobeithiwn, drwy hyn,
adlewyrchu gwleidyddiaeth fel elfen hanfodol o fywyd pob dydd a chreu pont
rhwng lleisiau’r ifanc a’r Senedd er mwyn dinistrio’r rhethreg ei fod yn
anhygyrch ac elitaidd. Hoffwn greu podlediad iaith Gymraeg gyda phobl ifanc a
fydd yn trafod a dadlau materion megis Iechyd Meddwl, Annibyniaeth i Gymru a’r
Oedran Bleidlais. Trwy ddefnyddio ffurf fodern, gobeithiwn godi materion
gwleidyddol mewn ffordd hamddenol a hygyrch.
Trwy fod yn aelod o’r mudiad Bwrdd Syr IfanC a gweithredu fel Llysgennad fy
ardal, rwyf wedi mabwysiadu sgiliau trafod a dadlau’n hyderus mewn grwp dros
faterion ynghyd a chyfrannu at y gymuned. Nid oes gen i ofn lleisio fy marn a
buaswn yn gyffrous iawn i gael y cyfle i weithredu dros bobl ifanc i sicrhau y
cynrychiolaeth yr ydym ni fel ieuenctid Cymru yn ein haeddu.