Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

William Hackett

William Hackett

Talking Hands

Roedd William yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: William Hackett

Bywgraffiad

Roedd William yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Rhwystrau i bobl fyddar
  • Llygredd
  • Bwlio

Helo, fy enw i yw William. Rwy'n 11 oed ac rwy'n byw yn y Mwmbwls gyda fy Mam, fy Nhad, un brawd hŷn a dwy chwaer fach. Ar hyn o bryd, rwyf ym mlwyddyn 7 yn Ysgol Gyfun Bishop Gore. Rwy'n mwynhau chwarae ar fy Xbox a chwarae pêl droed, a dydw i ddim yn hoffi bwyta brocoli.

Byddaf yn gwneud fy ngorau glas i wrando ar bawb ac i sicrhau bod y nifer fawr o faterion sy'n codi yng Nghymru yn cael eu cydnabod a'u datrys. Mae rhai o'r materion yr wyf yn teimlo'n gryf iawn amdanynt yn cynnwys: rhwystrau cymdeithasol ac addysgol sy'n wynebu pobl fyddar, llygredd a bwlio.

Rwy'n credu y dylech bleidleisio drosof fi i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy mod yn pryderu am y rhwystrau sy'n wynebu pobl fyddar. Y rheswm am hyn yw fy mod i, fel person byddar, wedi dod ar draws rhai o'r rhwystrau hyn fy hun, ac rwy'n credu bod angen mynd i'r afael â nhw. Rwy'n pryderu am lygredd oherwydd fy mod yn byw yn y Mwmbwls, sy'n bentref arfordirol, ac rwyf wedi gweld fy hun effaith ofnadwy llygredd ar fywyd gwyllt yn y môr ac ar y tir. Rwyf hefyd yn pryderu am fwlio oherwydd gall ddifetha bywyd person yn rhwydd, nid dim ond y person sy'n wynebu'r bwlio ond y bwli ei hun. Hefyd, gall achosion o fwlio fod mor ddifrifol weithiau eu bod yn cyfri fel troseddau ac mae'n rhaid galw'r heddlu. Byddaf yn gwneud fy ngorau i ddatrys y problemau hyn.

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/05/2018 - 12/01/2021
;

Digwyddiadau calendr: William Hackett