Ein stori ni
Pan sefydlwyd y Senedd ym 1999, crëwyd Gwasanaeth Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc pwrpasol, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc yng Nghymru ddysgu am waith y Senedd a chymryd rhan ynddo.
Ers hynny, mae tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd wedi gweithio gyda degau ar filoedd o blant a phobl ifanc ledled Cymru, gan rannu gwybodaeth a chynnwys pobl ifanc yng ngwaith y Senedd.
Darganfod. Dadlau. Dewis.
Erbyn hyn, mae'r siambr drafod wreiddiol a ddefnyddiwyd gan Aelodau o'r Senedd (1999-2007) yn gartref i ganolfan addysg y Senedd, Siambr Hywel. Yma, gall grwpiau ddysgu am waith y Senedd, trafod materion a darganfod sut y gallant gymryd rhan a chyfrannu at benderfyniadau a wneir gan Aelodau o'r Senedd.
Mae’r tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc hefyd yn cynnig gweithgareddau a chyfleoedd i drafod gwaith y Senedd a materion gwleidyddol mewn ysgolion a cholegau, yn ogystal â grwpiau a chlybiau y tu hwnt i’r amgylchedd addysg, ledled Cymru.
Dangos ymrwymiad - llofnodi'r Siarter Ymgysylltu â Phobl Ifanc
Er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn gallu mynegi eu barn a bod rhywun yn gwrando arnynt, llofnododd y Senedd Siarter Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn 2014. Mae’r Siarter yn nodi ymrwymiad y Senedd i sicrhau ei bod yn gwrando ar yr hyn mae pobl ifanc ledled Cymru yn ei ddweud, yn parchu hynny ac yn gweithredu arno.
Roedd y Siarter yn cynnwys ymrwymiad i’w gwneud yn haws i bobl ifanc ddysgu mwy am y Senedd a’r hyn mae’n ei wneud, cymryd rhan mewn dadleuon a dysgu sut mae eu cyfraniadau’n gwneud gwahaniaeth.
Sicrhau newid – Senedd Ieuenctid i Gymru
Ers i'r Senedd wneud ei hymrwymiad, dywedodd llawer o bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol (gyda chefnogaeth yr Ymgyrch am Gynulliad Plant a Phobl Ifanc i Gymru) wrth Senedd Cymru yr hoffent sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru.
Cytunodd yr Aelodau o’r Senedd.
Ym mis Hydref 2016, pleidleisiodd Aelodau o’r Senedd i sefydlu senedd ieuenctid penodedig i Gymru.
Ymgynghorodd y Senedd â dros 5,000 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru i helpu i benderfynu ar nod, aelodaeth a gwaith Senedd Ieuenctid Cymru.
Etholwyd Senedd Ieuenctid cyntaf Cymru ym mis Rhagfyr 2018, a threuliwyd y ddwy flynedd wedi hynny yn gweithio gyda’i gilydd, gydag Aelodau o’r Senedd a gyda phobl ifanc o bob rhan o Gymru i godi ymwybyddiaeth o faterion ac i alw am newid, yn enwedig ar y tri mater y dewisodd Aelodau Senedd Ieuenctid cyntaf Cymru eu blaenoriaethu:
Yr ail bennod
Cafodd ail Senedd Ieuenctid Cymru ei hethol yn 2021. Fe wnaethant gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Ionawr ac ym mis Chwefror 2022, cyflwynodd y 60 aelod newydd eu hareithiau cyntaf yn y Cyfarfod Llawn llawn cyntaf. Mi oedden nhw'n areithiau llawn ysbrydoliaeth! Gwyliwch nhw ar senedd.tv
Y 3 pwnc mater newydd a ddewiswyd oedd:
Pwy fydd trydydd Senedd Ieuenctid Cymru?
Mae'r ymgyrch etholiadol i ddod o hyd i drydedd Senedd Ieuenctid Cymru ar y gweill.
Os ydych rhwng 11 a 17 oed, beth am wneud cais i ddod yn aelod o'ch ardal leol? Mae'r ceisiadau ar agor tan 30 Medi 2024.
Mae defnyddio eich llais yn bwysig - gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio erbyn 20 Tachwedd 2024.
Pa faterion sy'n bwysig i chi? Rhannwch eich sylwadau drwy ein harolwg cyn 30 Medi 2024.
Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar-lein rhwng 4 a 25 Tachwedd 2024.